RHYBUDD HAWLFRAINT AC YMWADIAD

 

Rhybudd Hawlfraint

 

Cedwir pob hawl oni chaniateir hynny’n eglur.

 

Caniateir i chi storio rhannau o’r tudalennau hyn ar eich cyfrifiadur personol neu argraffu copïau er eich defnydd personol ac anfasnachol yn unig, ond dylech nodi mai Cyngor Gwynedd oedd eich ffynhonnell. Ni chaniateir i chi gopïo, lawr lwytho, storio (mewn unrhyw fodd), trosglwyddo, dangos neu chwarae’n gyhoeddus, addasu neu newid cynnwys y tudalennau Gwe hyn mewn unrhyw ffordd er unrhyw ddiben arall o gwbl heb dderbyn caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Gyngor Gwynedd. 

 

 

Nodau Masnach

Mae’r Logo “Carys Ofalus” a’r Enw “Carys Ofalus” yn nodau masnach cofrestredig y Cyngor ac ni ddylent gael eu defnyddio heb ganiatâd. 

 

 

Ymwadiad

 

Tra bo’r wybodaeth a welir yn y Wefan hon wedi ei chasglu o ffynonellau a gredir eu bod yn gyfredol a dibynadwy, ni all Cyngor Gwynedd fod yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau neu anwaith. Nid yw Cyngor Gwynedd yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamgymeriad neu unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gan ddefnyddwyr unrhyw wybodaeth a gyhoeddir ar unrhyw rai o’r tudalennau hyn. Nid yw gwybodaeth o’r fath yn ffurfio unrhyw sail ar gytundeb â darllenwyr neu ddefnyddwyr y Wefan hon.

Mae’r rhan fwyaf o’r dolennau cyswllt o Wefannau Cyngor Gwynedd yn rhai i sefydliadau cyfrifol. Fodd bynnag, ni ellir dal Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gywirdeb neu gyflawnrwydd unrhyw dudalennau ar Wefannau cyswllt o’r fath. Nid yw bodolaeth dolenni cyswllt o’r fath yn cynrychioli ardystiad gan Gyngor Gwynedd am unrhyw farn a leisir neu gynnyrch neu wasanaethau a gynigir.